Book Creator

Coleg Gwent Governor Guide (CYM)

by Marie Carter

Cover

Loading...
Loading...
Loading...
Loading...
Arwain rhagoriaeth...
Loading...
DO NOT USE - OLD VERSION
Loading...
... dod yn Llywodraethwr Coleg Gwent
Croeso i Coleg Gwent
Diolch am eich diddordeb mewn bod yn Llywodraethwr yn Coleg Gwent.
Coleg Gwent yw un o'r colegau mwyaf a'r gorau yng Nghymru, yn darparu ystod eang o gyrsiau academaidd a galwedigaethol i tua 18,000 o fyfyrwyr ar draws De Ddwyrain Cymru bob blwyddyn.
Y Corff Llywodraethu yw Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Gwent (Y Bwrdd). Mae'n darparu goruchwyliaeth strategol ac yn gweithredu fel 'cyfaill beirniadol' i dîm rheoli'r coleg.
"Braint yw bod yn Gadeirydd y Llywodraethwyr a helpu i arwain sefydliad sy'n newid bywydau er gwell. Fel Bwrdd rydym yn hynod falch o'r Coleg, ei staff a'r myfyrwyr yn enwedig.
 
Hoffem i bawb yn Coleg Gwent deimlo eu bod yn perthyn iddo ac fel Bwrdd rydym yn awyddus i adlewyrchu'r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae bod yn Llywodraethwr yn ffordd werth chweil o 'roi rhywbeth yn ôl' a chefnogi'ch cymuned - mae'n rôl yr wyf yn ei hargymell yn fawr".
Mark Langshaw MBE
Cadeirydd y Llywodraethwyr
Mae gennym uchelgeisiau mawr...
Ein Cenhadaeth:
Newid Bywydau drwy Ddysg
Ein Cynllun Strategol newydd ar gyfer
2021-26
yn dod yn fuan
... gallech ein helpu i'w cyflawni
Darparu rhagoriaeth
Mae tair cyfadran academaidd yn gweithredu ar draws pum campws unigryw:
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Crosskeys
Dinas Casnewydd
Parth Dysgu Torfaen
Brynbuga
Cliciwch ar y delweddau i gael gwybod mwy am bob campws
Mae gennym rywbeth i’w gynnig i bawb
Mae mwyafrif ein dysgwyr llawn-amser wedi gadael ysgol ôl-16 ac yn astudio Safon Uwch neu bynciau galwedigaethol (neu'r ddau) ond mae nifer sylweddol ohonynt yn ddysgwyr sy'n oedolion sydd eisiau ailhyfforddi
Mae dysgu rhan-amser yn cynnig hyblygrwydd a'r cyfle i astudio ar gampws neu yn un o'r lleoliadau cymunedol rydym yn eu gweithredu mewn partneriaeth â phum Awdurdod Lleol. Mae darpariaeth ran-amser eraill yn cynnwys Cymraeg i Oedolion.
Mae ein Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr yn gweithio'n agos gyda Chyfarwyddwyr Cyfadran i ddiwallu anghenion hyfforddi cyflogwyr ar draws y rhanbarth. Gall cyrsiau fod yn hyfforddiant undydd neu'n ddatblygiad staff parhaus fel cymwysterau ILM a gellir eu teilwra ar gyfer anghenion busnesau unigol.
Fel partner yn y consortiwm b-WBL rydym yn darparu Prentisiaethau yn y sectorau Adeiladu, Peirianneg, Cerbydau Modur a Gofal Iechyd.
Cliciwch ar y delweddau i weld pa mor amrywiol yw ein cyrsiau
Mewn partneriaith a  prifysgol a Pearson rydym yn cynnis ystod gynyddol o gyrsiau Addysg Uwch
Rounded Rectangle
Ein huwch dîm arwain
Yng Ngholeg Gwent rydym wedi ymrwymo i ragoriaeth mewn arweinyddiaeth a llywodraethu. 

Arweinir y coleg gan y Pennaeth/Prif Weithredwr, gyda chefnogaeth dau Is-bennaeth a thîm o ddeg uwch arweinydd ar draws meysydd academaidd a swyddogaethol. Maent yn gweithio'n agos gyda'r Bwrdd Llywodraethwyr mewn perthynas gynhyrchiol sy'n datblygu ac yn cefnogi ein nodau strategol.
"Rwy'n gwerthfawrogi cyfraniad aelodau'r Bwrdd at y coleg yn fawr. Fel uwch dîm arwain, rydym yn elwa o'u harbenigedd, eu profiadau a'u dealltwriaethau gwahanol.

Mae lefel yr her a ddarperir yng nghyfarfodydd y Bwrdd a'r pwyllgorau yn sicrhau nad ydym byth yn hunanfodlon, ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar wella ansawdd yn barhaus a'n bod wedi ystyried pob posibilrwydd".
Guy Lacey, Pennaeth/Prif Weithredwr
PrevNext