Loading...
Loading...
Sul y blodauRoedd Iesu ar ei ffordd i ddinas fawr o’r enw Jerwsalem gyda’i ffrindiau. Wrth iddyn nhw nesáu, dywedodd wrth dau o’i ffrindiau, “Ewch i’r pentref acw ac yno fe welwch chi ebol asyn wedi’i glymu. Dewch â fe yma ac os bydd unrhywun yn gofyn i chi beth ydych chi’n ei wneud atebwch nhw,
‘ Mae’r Meistr ei angen.’ ”
Felly i ffwrdd â nhw ac fe ddaethon nhw o hyd i’r ebol asyn a daethant â fe at Iesu. Yna eisteddodd Iesu ar gefn yr ebol asyn a chychwyn i lawr y ffordd am Jerwsalem.
Wrth iddyn nhw nesáu at y ddinas gwelsant dyrfa fawr o bobl yn sefyll bob ochr i’r ffordd yn gweiddi a chwifio coed palmwydd. Tynnodd rhai ohonynt eu cotiau a’u lluchio ar y llawr i wneud carped i Iesu.
Wrth iddo fynd heibio i’r dyrfa, bloeddiodd y dyrfa’n uchel, “Hwre i Iesu. Hwre i’r Brenin arbennig sydd wedi dod yn enw’r Arglwydd. Hosanna.Clod i Dduw.”

1. Sut oedd Iesu'n gwybod y byddai asyn yno i'w ffrindiau ddod o hyd iddo?
2. Pam wnaeth yr holl bobl weiddi’n uchel wrth groesawu Iesu?
3. Sut allwn ni groesawu Iesu heddiw?
4. Pwy ydw i’n ei ddilyn? E.e. ar Youtube neu Face book? Os y buasai
Iesu’n dod I fy nhref neu mhentref i, sut fath o groeso fuaswn i eisiau ei roi
iddo?