Book Creator

Blwyddyn 7 Medi 2020

by YGGBM

Pages 2 and 3 of 16

Blwyddyn 7
Medi 2020
Loading...
Bore da ddisgyblion blwyddyn 6

Mae’n amser rhyfedd iawn ond dyw hi.
Loading...
Loading...
Dr Llinos Jones,
Pennaeth Bro Myrddin
sy’n danfon y neges hon gan nad wyf yn gallu dod allan i’ch gweld ar hyn o bryd.
Gobeithio eich bod chi i gyd yn cadw’n iach.

Dy’n ni ddim wedi anghofio amdanoch chi yma ym Mro Myrddin ac rydym yn edrych ymlaen i’ch croesawu yma ym mis Medi.
Gobeithio yn wir y byddwch yn medru dod atom ar ymweliad cyn hynny ond rhaid aros am benderfyniadau y Llywodraeth cyn trefnu dim!
Gwn eich bod wedi bod yn yr ysgol am ddiwrnod pan oeddch chi’n blwyddyn 5 ond dyma gyflwyniad bach byr ar eich cyfer.
Dyma eich pennaeth blwyddyn
Mrs Luned Davies.

Fe fyddai Mrs Davies yn dod mas i’ch gweld chi gyd yn yr ysgolion cynradd ond peidiwch becso dim, cawn ddigon o amser eto i ddod i’ch adnabod chi i gyd.
Rydym bellach yn paratoi trefniadau ar eich cyfer ac yn gobeithio y bydd hi'n bosibl i chi ymweld gyda ni cyn y haf. Fel y gwyddoch, mae hynny'n dibynnu ar yr hyn mae Llywodraeth Cymru yn penderfynu.

Ar hyn o bryd rydym yn paratoi fideo fer ar eich cyfer a byddaf yn rhoi y fideo ar wefan yr ysgol ar ddechrau mis Mehefin. Byddaf yn cysylltu gyda chi eto pan fydd y fideo yn barod.
PrevNext