Book Creator

Canllaw i rieni a disgyblion

by YGGBM

Pages 2 and 3 of 26

Canllaw i rieni a disgyblion
Loading...
Llongyfarchiadau. Rydych chi newydd oroesi eich seithfed wythnos o ‘lockdown.’
Loading...
Mae disgyblion yn gweithio trwy Google Classrooms, mae’r athrawon yn brysur yn creu tasgau ac yn asesu gwaith, rydym yn cysylltu gyda’r disgyblion sydd angen cefnogaeth, wedi cael sgwrs fer gyda phob disgybl ac rydym yn ceisio codi calonnau trwy negeseuon dyddiol a thrwy ein gwefannau cymdeithasol.
Loading...
Rydym yn gwneud ein gorau glas i gynnal naws garedig, deuluol a chefnogol
Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin.
Hoffwn bwysleisio ein bod yn deall y pwysau sydd arnoch chi rieni a theuluoedd. Yn sicr, dyma gyfnod heriol ac anghyffredin iawn i ni gyd.

Nid oes unrhyw un ohonom wedi gweithio mewn sefyllfa o’r fath o’r blaen ac yn sicr mae’n broses o ddysgu cyflym i ni gyd.
Cofiwch bod yr athrawon yn ceisio gosod tasgau yn ddyddiol i’ch plant, ond nid yw hynny bob amser yn bosibl ac nid oes disgwyl bod pob plentyn yn cwblhau pob darn o waith.
Rwyf eisoes wedi dweud wrtho chi fel rhieni – nid oes disgwyl i chi ail-greu Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin ar fwrdd eich cegin!
Mae bywyd ‘ysgol’ eich plentyn wedi newid yn llwyr.
Dydyn nhw ddim yn gallu siarad gyda’i ffrind rhwng gwersi bellach.
PrevNext