Book Creator

(copy) Coleg Gwent Governor Guide

by Marie Carter

Cover

Loading...
Loading...
Loading...
Loading...
Arwain mawredd ...
Loading...
... Bod yn Llywodraethwr yn Coleg Gwent
Croeso gan y Cadeirydd

'Fel un o'r colegau mwyaf ac un o’r rhai sy’n perfformio orau yng Nghymru, mae Coleg Gwent yn darparu cyrsiau academaidd a galwedigaethol i tua 18,000 o ddysgwyr bob blwyddyn. Mae'n fraint cael bod yn Gadeirydd y Llywodraethwyr, gan helpu i
arwain sefydliad sy'n newid bywydau er gwell ac sy'n chwarae rhan mor bwysig yn y gymuned leol.  Fel Bwrdd, rydym yn hynod falch o'r Coleg, ei staff ac, yn arbennig, ein myfyrwyr.


Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am bennu cymeriad addysgol y coleg, sicrhau cynaliadwyedd ariannol a darparu goruchwyliaeth strategol. Rydym yn gweithredu fel 'cyfaill beirniadol' i dîm rheoli'r Coleg, gan graffu arnynt a'u dwyn i gyfrif, ond rydym hefyd yn helpu i ddod o hyd i atebion a ffyrdd o wella.

Mae gwirfoddoli eich amser a'ch sgiliau fel Llywodraethwr yn ffordd wirioneddol foddhaus o 'roi yn ôl' a chefnogi'r gymuned - mae'n rôl yr wyf yn ei hargymell yn fawr.'
Mark Langshaw MBE
Cadeirydd y Llwodraethwyr
Mae gennym uchelgeisiau mawr...
Ein Cenhadaeth
I Newid Bywydau Drwy Ddysgu
Ein Gweledigaeth
Erbyn 2026 Coleg Gwent fydd y coleg o ddewis, yn gweithio’n egnïol gyda'n cymunedau, lle mae pob dysgwr a phob aelod o staff yn cael eu trin â pharch, yn cyflawni eu potensial llawn ac yn elwa o'r adnoddau gorau mewn amgylchedd dysgu ysbrydoledig.
... Gallwch chi ein helpu ni i gyflawni’r rhain
Cyflawni rhagoriaeth
Mae tair cyfadran academaidd yn gweithredu ar draws pum campws unigryw:
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Parth Dysgu Torfaen
Dinas Casnewydd
Cliciwch ar y lluniau i ddarganfod mwy am bob campws
Crosskeys
Brynbuga
      
Yn agor cyn bo hir... HiVE, Glyn Ebwy
Rydym yn cynnig rhywbeth i bawb
Mae ein dysgwyr llawn amser yn bennaf yn fyfyrwyr sydd wedi gadael yr ysgol ac sy’n astudio pynciau Safon Uwch neu bynciau galwedigaethol (neu'r ddau), ond mae nifer sylweddol yn ddysgwyr sy'n oedolion ac sy'n dymuno ailhyfforddi.
Mae dysgu rhan-amser yn cynnig hyblygrwydd a'r cyfle i astudio ar y campws neu yn un o'r lleoliadau cymunedol rydym yn eu gweithredu mewn partneriaeth â phum Awdurdod Lleol. Mae darpariaeth ran-amser arall yn cynnwys Cymraeg i Oedolion.
Rydym yn darparu Prentisiaethau mewn amrywiaeth o sectorau gan gynnwys Adeiladu, Digidol, Peirianneg, Cerbydau Modur a Gofal Iechyd.
Mae ein Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr yn gweithio'n agos gyda busnesau i sicrhau bod ein cyrsiau'n diwallu anghenion cyflogwyr lleol ac mae ein myfyrwyr yn datblygu sgiliau ar gyfer y gweithle. Rydym hefyd yn darparu ystod eang o hyfforddiant proffesiynol y gellir ei deilwra i anghenion busnesau unigol.

Cliciwch ar y lluniau i ddarganfod pa mor amrywiol yw ein cyrsiau
Rydym yn cynnig amrywiaeth gynddol o gyriau lefel prifysgol
Rounded Rectangle
Ein huwch dîm arweinyddiaeth
Yn Coleg Gwent, rydym wedi ymrwymo i ragoriaeth mewn arweinyddiaeth a llywodraethu. Arweinir y coleg gan y Pennaeth/Prif Weithredwr, gyda chefnogaeth yr Is-Benaethiaid a thîm o uwch arweinyddion, pob un yn
gyfrifol am faes academaidd neu swyddogaethol. Maent yn gweithio'n agos gyda’r Bwrdd Llywodraethwyr mewn perthynas gynhyrchiol sy'n datblygu ac yn cefnogi ein nodau strategol.






"Rwy'n gwerthfawrogi cyfraniad aelodau'r Bwrdd i'r coleg yn fawr. Fel uwch dîm arweinyddiaeth, rydym yn elwa o'u harbenigedd, eu profiadau a'u mewnwelediad gwahanol.

Mae lefel yr her a ddarperir yng nghyfarfodydd y Bwrdd a'r pwyllgorau yn sicrhau nad ydym byth yn hunanfodlon, ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar wella ansawdd yn barhaus
a'n bod wedi meddwl am bob posibilrwydd".
Guy Lacey
Pennaeth/Prif Weithredwr
PrevNext